Fwyfwy mae sefydliadau a busnesau yng Nghymru yn gweithredu’n ddwyieithog. Maent yn gweld pa mor bwysig yw sicrhau deunydd Cymraeg o’r safon uchaf ac yn chwilio am gwmni y gallant ddibynnu arno i lunio cyfieithiadau cywir.
Rydym yn deall bod cyfieithu’n grefft arbenigol ac yn ymfalchïo yn safon ein gwaith gorffenedig. Polisi’r cwmni yw bod yr holl gyfieithwyr sy’n gweithio i Pennawd yn aelodau’r Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Mae gennym brofiad helaeth mewn llawer o feysydd amrywiol ac rydym yn defnyddio’r deunyddiau a’r dogfennau cyfeirio diweddaraf a mwyaf cynhwysfawr i wirio terminoleg ac ieithwedd.
Yn ddieithriad caiff pob darn gwaith a wneir ei wirio gan olygydd cyn ei anfon yn ôl i’r cleient. Mae ein prisiau cystadleuol yn cynnig gwerth ardderchog am arian gan fod y broses golygu yn gynwysedig yn y pris.
Sylweddolwn fod cyfieithu’n aml yn cael ei drefnu ar ddiwedd amserlen prosiect, gan arwain at derfynau amser caeth a’r angen i gwblhau gwaith dan bwysau. Bydd ein staff bob amser yn trafod eich gofynion ac yn cytuno ar amserlen cyn dechrau’r gwaith. Nod Pennawd yw hwyluso’r broses cyfieithu i bawb.
Mae cleientiaid megis cynghorau sir, byrddau iechyd lleol, cyrff cyhoeddus eraill, sefydliadau addysg, busnesau masnachol, cwmnïau di-elw ac elusennau yn ymddiried eu gwaith cyfieithu i Pennawd.