Cleientiaid
Wedi bodloni meini prawf llym eu prosesau tendro, mae Pennawd wedi ennill contractau gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’r Asiantaeth Safonau Bwyd.
Hefyd mae gennym gytundebau gyda WWF Cymru, Cartrefi Cymru a Threnau Arriva Cymru.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Sir Gâr yn rhoi gwaith i ni’n rheolaidd fel un o’u cyflenwyr cymeradwy.
Ymhlith ein cwsmeriaid rheolaidd eraill mae cynghorau sir, byrddau iechyd lleol, cyrff cyhoeddus eraill, sefydliadau addysg, busnesau masnachol, cwmnïau di-elw ac elusennau.
|