Subtitling
Translation
Proofreading and Editing
Business Services
Links
Contact
Pennawd
The Company
Cyfleithu
Prawfddarllen a Golygu
Gwasanaethau Busnes
Dolenni
Cysylltu

Gwasanaethau Busnes

Mae Pennawd yn cynnig amryw o wasanaethau busnes. Fe’u cyflawnir gan staff sydd â chymwysterau ysgrifenyddol ac ieithyddol o’r ansawdd orau a safon addysg ardderchog.

Gallwn ddarparu trawsgrifiadau cyfarfodydd neu gyfweliadau, neu ddeunydd wedi’i recordio at ddibenion golygu, yn Gymraeg neu yn Saesneg. Gyda deunydd Cymraeg, trwy ymddiried y gwaith i gwmni a chanddo gefndir ym maes cyfieithu, gallwch fod yn sicr o gael gwaith gorffenedig o’r radd flaenaf.

Mae’r cwmni hefyd yn cynnig gwasanaethau megis gweithredu gwasanaeth ffôn Cymraeg i gleientiaid.

Gall Pennawd baratoi isdeitlau Cymraeg neu Saesneg ar gyfer fideos corfforaethol neu raglenni teledu. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth rheoli prosiectau, gan drefnu’r broses gyfan a chyflwyno’r gwaith gorffenedig wedi’i isdeitlo i’r cleient.

Mae isdeitlwyr Pennawd ymhlith y mwyaf profiadol yng Nghymru. Bu’r mwyafrif yn gweithio yn y maes er pan ddechreuwyd rhoi isdeitlau Saesneg ar raglenni Cymraeg S4C. Bu’r cwmni hefyd yn cyfrannu at gyrsiau addysg uwch yn y maes.