Subtitling
Translation
Proofreading and Editing
Business Services
Links
Contact
Pennawd
The Company
Cyfleithu
Prawfddarllen a Golygu
Gwasanaethau Busnes
Dolenni
Cysylltu

Prawfddarllen a Golygu

Mae cywirdeb deunydd ysgrifenedig yn gwbl hanfodol er mwyn cyfathrebu’n effeithiol â chleientiaid a defnyddwyr gwasanaeth a chreu delwedd gadarnhaol a phroffesiynol. Gall gwallau achosi oedi a chostau diangen a chael effaith andwyol.

Cynigia’r cwmni wasanaethau prawfddarllen Cymraeg a Saesneg. Bydd hyn yn sicrhau nad oes gwallau sillafu na gramadegol yn eich deunydd ysgrifenedig. Gallwn wirio’r testun cyn ei anfon at y dylunwyr neu’r cysodwyr neu wirio proflenni dogfennau cyn iddynt gael eu hargraffu’n derfynol.

Mae Pennawd hefyd yn cynnig gwasanaeth golygu llawn. Gallwn gywiro ac ailysgrifennu’ch testun, gan wella ac addasu’r iaith a’r arddull i fodloni disgwyliadau’r gynulleidfa darged a chyfleu’ch neges yn glir.