Y Cwmni

Mae Pennawd yn darparu cyfieithu Cymraeg/Saesneg a gwasanaethau busnes eraill i amrywiaeth fawr o gleientiaid.
Cynigir gwasanaethau o’r safon uchaf gan ein staff cyfeillgar, proffesiynol a phrofiadol, a hynny am brisiau cystadleuol iawn. Gwneir pob darn o waith gan aelodau o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, sef y corff proffesiynol cydnabyddedig.
Gwerthfawrogwn fod angen cytuno ar amserlen gyda’n cleientiaid a chadw at derfynau amser.
Bellach mae gan Pennawd nifer o gleientiaid rheolaidd sy’n cynnwys cyrff cyhoeddus, cwmnïau preifat ac elusennau ac mae’n ymdrin â gwaith cyfieithu a gwasanaethau Cymraeg amrywiol iawn eu natur.
Ein nod yw darparu gwaith o’r ansawdd gorau mewn partneriaeth â’n cwsmeriaid.

The Company

Pennawd provides English/Welsh translation and other business services to a wide range of clients.
Our friendly, professional and experienced staff deliver services of the highest standard at very competitive rates. All work is carried out by members of the Association of Welsh Translators and Interpreters, the recognised professional body.
We appreciate the need to agree a timetable with clients and adhere to deadlines.
Pennawd has developed a robust customer base which includes public bodies, private companies and charities, and covers a wide range of translation and Welsh-language provision.
Our aim is to deliver quality products in partnership with our customers.

Cleientiaid

Wedi bodloni meini prawf llym eu prosesau tendro, mae Pennawd wedi ennill contractau gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’r Asiantaeth Safonau Bwyd.

Hefyd mae gennym gytundebau gyda WWF Cymru, Cartrefi Cymru a Threnau Arriva Cymru.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Sir Gâr yn rhoi gwaith i ni’n rheolaidd fel un o’u cyflenwyr cymeradwy.

Ymhlith ein cwsmeriaid rheolaidd eraill mae cynghorau sir, byrddau iechyd lleol, cyrff cyhoeddus eraill, sefydliadau addysg, busnesau masnachol, cwmnïau di-elw ac elusennau.

Clients

Having satisfied the stringent criteria of their tendering processes, Pennawd has won contracts with the Welsh Assembly Government, the Countryside Council for Wales and the Food Standards Agency.

We also have agreements with WWF Cymru, Cartrefi Cymru and Arriva Trains Wales.

Caerphilly County Borough Council and Carmarthenshire County Council regularly entrust work to us as an approved supplier.

Our other regular customers include county councils, local health boards, other public bodies, educational institutions, commercial concerns, not-for-profit companies and charities.